|
HUW
WILLIAMS
Huw
Williams:
Gitâr a stepio
Mae
Huw Williams wedi bod yn perfformio dawnsfeydd stepio traddodiadol
Cymreig ers yn 15 oed. Daeth hefyd yn ddylanwadol iawn ym maes cerddoriaeth
a dawnsio gwerin, ac mae ei lyfr ar glocsio yn ei drydydd argraffiad.
Enillodd nifer o bencampwriaethau cenedlaethol Cymreig ac mae wedi
ymddangos nifer fawr o weithiau ar y radio ar teledu. Mae
ei steil perfformio, syn cyfuno stepiau traddodiadol gyda
chysyniadau cyfoes, yn unigryw, ac wedi ei ddisgrifio gan un arbenigwr
fel "
y gorau, o bell ffordd, o unrhyw beth sydd wedi
ei weld eto".
Y
ddawns stepio Gymreig (neu ddawns y glocsen, y term syn fwy
poblogaidd yng Nghymru) ywr unig fath o ddawnsio Cymreig traddodiadol
sydd wedi parhau heb baid. Yn ystod y ddeunawfed ganrif ar
bedwaredd ganrif ar bymtheg, oherwydd y diwygiad Anghydffurfiol
bu i nifer o ffurfiaur diwylliant gwerin yng Nghymru, yn enwedig
dawnsio traddodiadol, bron â diflannun llwyr. Ond roedd
poblogrwydd rhythmau cyffrous a steil deinamig dawns y glocsen yn
ddigon i gadwr traddodiad yn fyw, ac maen parhau i ffynnu
a datblygu.
|