Nos Sadwrn Back

Crasdant - Nos Sadwrn Bach
Sain SCD 2306

The second album, released in 2001.

Recorded in Stiwdio Sain, Llandrwog and Tudor Crescent Studios, Brynmawr.

Nodiadau cefndirol i’r alawonTrac 1: Y Crefftwr
1a. Y Crefftwr
‘The Craftsman’ - o lawysgrif Cwrt Mawr (Cerddorol) 9, (Llyfrgell Genedlaethol Cymru), a berthynnai i
‘John Evans[,] Taylor[,] Errwddu [sic] Darrowen [sic] Montgomery 1796’
Daeth y llawysgrif trwy ddwylo nifer o wahanol bobl at Mary Richards, Darowen (1787-1877), merch rheithor y plwyf. Ymddiddorai yn fawr mewn llenyddiaeth Gymraeg, ac ‘roedd hefyd yn gerddor, a chasglydd brwd o lawysgrifau cerddorol Cymreig. Mae’r rhain bellach i’w gweld mewn gwahanol gasgliadau yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef casgliadau Cwrt Mawr, Cwrt Mawr (Cerddorol), a chasgliad y diweddar Dr. J. Lloyd Williams.1b. Llawenydd Pob Llu
‘Llawenydd pob lu [sic]’ - o gasgliad Ylltyr Williams, Llsgr. Bangor 2254 (Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor).
Mae hanner cyntaf hon yn reit debyg i’r alaw a ddefnyddir i’r ddawns ‘Shepherd’s Hey’ o’r traddodiadau dawnsio Morris yn Lloegr. 1c. Dic y Cymro
‘Dick the Welshman’ - o: Hugh Mellor, Welsh Dance Tunes (London, Novello & Co., ?1937)
Dywed Mellor: ‘From Thompson’s Compleat Collection of Country Dances. (circa 1764)’


Trac 2: Tebot Pultague2a. Jig Pultague
‘Jegg Pultague’ - o lawysgrif Cwrt Mawr (Cerddorol) 31, (yn Ll.G.C.), a berthynnai i
‘The Revd. R. Richards, Caerwys, Holywell, Flintshire, North Wales ... Darowen for ever.’
Brawd i Mary Richards, Darowen (Gw. 1a. Y Crefftwr, uchod). 2b. Jig y Tebot
‘The Teapot Jig’ - Cyfansoddwyd gan Dick Lee o’r Alban.


Trac 3: Mympwy Portheinon3. Mympwy Portheinon
‘The Porteynon Whim... 1817’ - o lyfr cerddoriaeth Charlotte Louisa Talbot, Llsgr. LlGC 11969D, un o gasgliad llawysgrifau ‘Traherne-Mansell Franklyn’.
‘Roedd Charlotte yn drydedd ferch i Thomas Mansell Talbot (1747-1813), perchennog ystâd fawr Pen-rhys a Margam ym Morgannwg. Yn 1830, priododd hi â’r Parchedig John Montgomery Traherne (1788-1860) o Goedriglan ger Caerdydd, hynafiaethydd enwog. Derbyniodd Charlotte Talbot y llyfr cerddoriaeth gan ei mham yn ahrheg yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg:
‘...the gift of Mama.’


Trac 4: Y Bore Glas4a. Y Bore Glas
O: Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg; ... (Llanymddyfri, 1844), y casgliad cyhoeddedig cyntaf o ganeuon gwerin Cymraeg i gynnwys geiriau i’r alawon.
‘Pan o’wn i ar foreuddydd, Ar laswyn y dydd,
Yn rhodio glâs y coedydd, A ‘nghalon i yn rhydd,
Clywn i’r ‘deryn du pigfelyn yn canu’n [sic] yn y dyffryn,
A finnau’n ei serchu Yn y gwydd.’4b. Cariad-gân y Sguthan
O: Nicholas Bennett, Alawon fy Ngwlad, (?1896). Dim ond yr wyth bar cyntaf sydd gan Bennett, felly, Robin a gyfansoddodd yr ail wyth bar.


Go to next column

 

Trac 5: Tatws Penfro5a. Tatws Penfro
O lawysgrif LlGC 20067A
‘Mr. W.S. Clark’s Old Music Book ... Willm. Thos. Lewis, Mardy, Aberdare July 22 [18]69’
Barwn Merthyr o Senghennydd 1af oedd W.T.Lewis, ac ‘roedd William Southern Clark yn asiant mwyngloddio i ystâd Ardalydd Bute yn Ne Cymru. ‘Roedd yr alaw yn ddi-enw yn y llawysgrif, a Robin wnaeth ei bedyddio efo’r enw presennol.5b. Pibddawns William Edwards
‘W. Edwards’ Hornpipe’ - o lawysgrif Bangor 2255 (casgliad Ylltyr Williams. Gw: 1b. Llawenydd pob Llu).
hefyd:
‘The Harper, Mr. Edwards’s Hornpipe’ - o lawysgrif J. Lloyd Williams 48 (yn LlGC) a berthynnai i
‘Miss Jane Catherine Lloyd’ [?Bangor, c.1850].


Trac 6: Jigiau’r Goron6a. Brenhines Mynwy
6b. Brenin y Lleuad
Huw fathodd y ddau deitl yma, a Robin gyfansoddodd y ddwy alaw yn arbennig i’r Delyn Deires.


Trac 7: Y Fwyalchen7. O! ‘r Fwyalchen Ddu Bigfelen
O lawysgrif LlGC Mân Adnau 150B.
‘Casgliad o Alawon Cymreig, na chyhoeddwyd o’r blaen, wedi eu casglu a’u trefnu gan ‘Orpheus’ erbyn Eisteddfod Llangollen 1858. ... Rhif 36. Sung in Cardiganshire; and copied from the singing of Mrs J. Emlyn Jones; the old song ran thus:-

O! ‘r fwyalchen ddu bigfelen
That flies so nimbly through the air
Ai di drosoi [sic]at y ddynes
She is the fairest of the fair
A dywedyd y gwir wrthi
Ei bod yn poeni mywyd i
Not to send me a true answer
Ei bod hi yn y ddaear ddu.’


Trac 8: Polca Eldra8a. Polca Eldra
Polca o’r traddodiad Sipsi Cymreig a ddysgodd Robin gan y ddiweddar Eldra Jarman, yr olaf o lwyth y Romani yng Nghymru i ganu’r delyn yn null traddodiadol ei theulu.
‘Roedd Eldra yn or-wyres i John Roberts ‘Telynor Cymru’ o’r Drenewydd, telynor Cymreig enwog o’r 19eg ganrif, yr oedd ganddo naw o feibion a thair o ferched. Dysgodd iddynt i gyd ganu’ r Delyn Deires a’r ffidil, a byddent yn perfformio yn eang o gwmpas Cymru a’r Gororau, mewn Eisteddfodau, cyngherddau, seremonïau, tai’r bonedd, tafarndai, a dawnsfeydd o dan yr enw The Original Cambrian Minstrels.
Fe drosglwyddwyd eu cerddoriaeth mewn traddodiad llafar yn uniongyrchol i Eldra, ac ‘roedd yn fraint i Robin gael dysgu’r alawon ganddi o’r etifeddiaeth odidog, fyw hon. Mawr iawn yw’r gwerthfawrogiad a’r diolch.8b. Y Mân Ddarlun
8c. Y Coroni
‘Miniture’ - ‘Coronation’ - o lawysgrif LlGC 335A o gasgliad Thomas Dafydd Llewelyn ‘Llewelyn Alaw’ (1828-1879) o Aberdâr. Telynor a chasglwr brwd o alawon a enillodd y wobr yn Eisteddfod Llangollen 1858 am y casgliad gorau o alawon Cymreig heb eu cyhoeddi (Gw. 7. O! ‘r Fwyalchen Ddu Bigfelen). Mae casgliad Llewelyn Alaw yn cynnwys nifer helaeth a chymysg o alawon traddodiadol a phoblogaidd y cyfnod, ac felly mae’n adlewyrchiad da o natur canu offerynnol yr oes honno yn y Cymoedd Diwydiannol. Mae nifer helaeth o’r alawon traddodiadol i’w gweld bellach yn llyfr Nicholas Bennett, Alawon fy Ngwlad (Gw. 4b. Cariad-gân y Sguthan).


Go to next column

 

Trac 9: Nos Galan9a. Nos Galan
9b. Nos Galan (Yr Hen Ffordd)
Yr alaw enwog Gymreig sydd bellach yn adnabyddus dros y byd fel y carol Nadolig ‘Deck the Halls with Boughs of Holly’. Defnyddir yr alaw hefyd ar gyfer y ddawns o draddodiad Nantgarw ‘Dawns y Blodau’.
Daw’r hen fersiwn o: John Parry, (‘Parry Ddall’, Rhiwabon), A Collection of Welsh, English and Scotch Airs, (1760), ymysg deuddeg o alawon di-deitl a drefnwyd yn syml i’r gitâr.


Trac 10: Blodau’r Flwyddyn10. Blodau’r Flwyddyn
Teitl a ddaw o briodas hen alaw â gwahanol eiriau. Cyhoeddwyd yr alaw gyntaf yn: John Thomas, (‘Ieuan Ddu’, 1795-1871) Y Caniedydd Cymreig - The Cambrian Minstrel, (Merthyr Tudful, 1845). Dyma oedd yr ail lyfr o ganeuon Cymraeg i’w gyhoeddi gyda geiriau, ar ôl llyfr enwog Maria Jane Williams Aberpergwm (Gw. 4a. Y Bore Glas). Ond yn lle cyhoeddi’r geiriau a gasglwyd gyda’r alawon, tueddai Ieuan Ddu i gyfansoddi ei eiriau ei hun, ac yn anffodus nid oedd bob amser yn fawr o fardd.
Ymddengys yr alaw yma yn y llyfr o dan y teitl ‘Yr Hen Wr o’r Coed - yn ôl dull Dyfed’, ond wrth gyhoeddi’r alaw o’r newydd, rhoddodd y golygyddion Phyllis Kinney a Meredydd Evans ddetholiad o hen benillion traddodiadol i’r alaw:
‘Blodau’r flwyddyn yw f’anwylyd,
Ebrill, Mai, Mehefin hefyd;
Llewyrch haul yn twnnu ar gysgod,
A gwenithen y genethod.’
Gw: Phyllis Kinney & Meredydd Evans, Canu’r Cymry (Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 1984)
a T.H. Parry-Williams, Hen Benillion (Gwasg Aberystwyth, 1965)
Mawr yw ein dyled ni oll i Phyllis a Merêd am eu gwaith ymchwil pwysig, eu cyhoeddi gwerthfawr, a’u llafur hir ym maes canu gwerin, sydd wedi rhyddhau corff sylweddol o ddeunydd at ein defnydd ni heddiw.


Trac 11. Nos Sadwrn Bach11a. Nos Fercher
‘Widnesday Niht’ - o lawysgrif J. Lloyd Williams 53 (yn LlGC), cyfrol a berthynai i John Williams, Llanfachraeth, Môn ym 1833, ond mae’n bosibl i’r alawon gael eu hysgrifennu yn y llyfr gan rywun arall ar ddiwedd y 18ed ganrif. 11b. Mantell Siani
O: Nansi Richards (‘Telynores Maldwyn’), Llyfr Wyth o Geinciau Cerdd Dant, (Snell & Sons, Abertawe, 1954) lle mae hi’n nodi:
‘Cefais yr hen Alaw Mantell Siani gan y diweddar Tom Lloyd ‘Telynor Ceiriog’ ac ar ol ei enw ef y galwyd hi yn Mantell Siani Lloyd.’
Athro Telyn Deires Nansi oedd Telynor Ceiriog.11c. Morris Ymdeithiol
‘Processional Morris Dance’ - o: Hugh Mellor, Welsh Dance Tunes (London, Novello & Co., ?1937).
(Gw. 1c. Dic y Cymro uchod.)
Dywed Mellor: ‘Collected by Lady Lewis ... The above form of the tune is exactly as I received it, in manuscript, years ago; since then it has been printed in the Welsh Folk Song Society Journal, but with a difference. If the key-signature be changed to two sharps then it will agree with the printed form. I do not know whether the sharps have been forgotten from my copy or whether they got in by mistake on the other copy.’
‘Roedd Lady Herbert Lewis yn weithgar iawn ym maes casglu canu gwerin yn Sir Fflint ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’n rhaid felly fod yr alaw yn un a ddefnyddid ar gyfer y Cadi Ha!, y ddawns Forris ymdeithiol o’r sir honno a ddisgrifiwyd gan Lady Lewis yr adeg yna. Andy a benderfynodd mai’r fersiwn cywair llon fyddai’n siwtio’r medli yma orau.

Cymru, DU ac Ewrop ffôn/ffacs:
+44 (0) 1248 600427
ebost:
info@crasdant.com

Gogledd America
Nancy Carlin Associates
tel:
925/686-5800
ebost:
nancy@NancyCarlinAssociates.com

Newyddion | Proffil | Bywgraffiad | Cronfa | Offerynnau | Oriel | Calendr | Adnoddau | Cysylltu | English