AUR PUR CERDDOROL CYMREIG

Os yw Cymru’n enwog fel Gwlad y Gân, bu raid i’r alawon ddisgwyl am ddyfodiad Crasdant cyn camu i’r golau. Dyma fand offerynnol blaenllaw ein gwlad - pedwar offerynnwr talentog, pob un yn unigol ag enw cerddorol arobryn, sydd wedi dod ynghyd allan o barch at ei gilydd gyda’r nod o osod y canon offerynnol Cymreig ochr yn ochr â’i gyfoedion Celtaidd.

Mae Crasdant yn cymysgu telyn draddodiadol Cymru, y delyn deires unigryw, gyda sain y ffliwt a’r chwibanogl, y ffidl, y cordial, y gitâr a’r pibgorn. I ychwanegu sbeis Terpsichoreaidd i’r gymysgedd mae stepio coegwych pen-clocsiwr!

 

Mae Crasdant yn recordio ar gyfer label SAIN ac mae dau albwm ar gael bellach - Crasdant yn 1999 a Nos Sadwrn Bach yn 2001.

Aelodau Crasdant yw Robin Huw Bowen, telynor mwyaf adnabyddus Cymru ar y delyn-deires, Stephen Rees o Ar Log, Andy McLauchlin a Huw Williams, dehonglwr blaenllaw Cymru o gelfyddyd dawns y glocsen.

 
Cylchlythyr Crasdant

Tanysgrifio Canslo Tanysgrifiad

Tanysgrifiwch heddiw i dderbyn ein cylchlythyr ysbeidiol. Newyddion, casgliadau, dyddiadau ac unrhyw beth arall sy’n ein taro.

Newyddion | Proffil | Bywgraffiad | Cronfa | Offerynnau | Oriel | Calendr | Adnoddau | Cysylltu | English