ROBIN HUW BOWEN

Robin Huw Bowen:
Telyn-deires

Mae dylanwad Robin Huw Bowen ym myd cerddoriaeth werin a thelynau Cymreig wedi bod yn bellgyrhaeddol. Nifer fechan o delynorion byd eang sy’n gallu chwarae’r delyn deires, ac ef yw’r cerddor proffesiynol blaenllaw sy’n arbenigo’n y maes yma’n unig. Mae ganddo enw’n rhyngwladol fel prif ddehonglwr offeryn cenedlaethol Cymru ac mae’n un o’r enwau pwysicaf a gysylltwyd erioed â cherddoriaeth werin Gymreig. Yng Ngw^yl Machynlleth 2000, derbyniodd Robin Wobr Glyndw^r am "gyfraniad pwysig i’r celfyddydau yng Nghymru".

Daw Robin Huw Bowen o deulu Cymraeg ei iaith o Ynys Môn. Denwyd Robin at y delyn yn wreiddiol gan gerddoriaeth y telynor Llydaweg adnabyddus Alan Stivell, a’i hysbrydolodd i ddysgu am gerddoriaeth ei dreftadaeth ei hunan ar gyfer y delyn. Yn 1979 derbyniodd radd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o Goleg Prifysgol Aberystwyth. Dechreuodd astudio’r delyn deires Gymreig o ddifrif yn 1980 tra’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cymerodd bob cyfle i ymchwilio cerddoriaeth a thechneg yr hen delynorion Cymreig drwy astudio nifer o’u hen lawysgrifau a chyhoeddiadau. Llwyddodd yn ogystal i ehangu ei ymchwil tu hwnt i’r archifau llychlyd, drwy ddysgu alawon a thechnegau oddi wrth nifer o delynorion oedrannus, a basiodd eu traddodiadau teuluol eu hunain i lawr iddo. Mae Robin felly’n parhau i ddehongli’r traddodiad cerddorol yma’n ddi-dor, yn parchu arddull, techneg, cynnwys a dehongliad y gerddoriaeth unigryw yma. Mae ganddo’r sensitifrwydd cerddorol i sicrhau nad atgynhyrchu’r gerddoriaeth fel ymarfer academaidd a wna, ond yn hytrach ei hadfywio ym mhob perfformiad a’i chyflwyno fel rhywbeth byw.

Next column

 

 

 

 

 

Dechreuodd Robin deithio yn gyntaf fel aelod o’r grwp gwerin Cymraeg Mabsant,

ac ers 1983, mae wedi teithio fel perfformiwr unigol yng Ngogledd America, Awstralia ac Ewrop. Perfformiodd mewn prif wyliau, cyngherddau, colegau ac i grwpiau diwylliannol a’r teulu brenhinol Prydeinig, yn ogystal â chyflwyno dosbarthiadau a gweithdai. Rhwng 1990 a 1996 bu’n perfformio ac yn recordio gyda Cusan Tân, yn chwarae cerddoriaeth Ann Morgan Jones yn bennaf, ac yn 1998 ymunodd â thri o’r goreuon ymhlith cerddorion traddodiadol Cymru i ffurfio Crasdant, y band traddodiadol mwyaf cyffrous i’w sefydlu yng Nghymru yn y blynyddoedd diweddar. Mae llawer o albymau Robin wedi eu rhyddhau i labeli recordio yng Ngogledd America, fel bod cerddoriaeth Gymreig ar gael dros y byd am y tro cyntaf. Yn fyr, mae Robin wedi cyflwyno cerddoriaeth Gymreig i filoedd nad oedd erioed wedi ei glywed o’r blaen, neu na fyddai fel arall yn debygol o wneud.

Teimlwyd ei ddylanwad yn gryf yng Nghymru hefyd. Does yr un recordiad o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig dros yr ugain mlynedd diwethaf, bron, sydd heb elwa o waith Robin yn ymchwilio a chyhoeddi hen alawon gwerin a aeth yn angof. Drwyddo ef, mae’r canon cerddoriaeth Gymreig wedi cynyddu’n sylweddol.

Er bod repertoire Robin yn adlewyrchu’r alawon ar gyfer y delyn Gymreig yn ei hanterth (o ganol yr 17eg hyd ddiwedd y 19eg Ganrif), mae ei chwarae a’i ddehongli yn parhau’r traddodiad yn ddi-dor. P’un ai gydag alaw danbaid o gasgliad y Sipsiwn Cymreig, pibddawns a fu’n angof am oesoedd neu alaw araf sy’n arddangos cymhlethdod y tair rhes o dannau a’r arddull unigryw o chwarae amrywiaethau ar yr alaw, mae Robin Huw Bowen yn gerddor heb ei ail.

 

Bywgraffiad
Robin Huw Bowen

Stephen Rees
Andy McLauchlin
Huw Williams
Previous Page

 

Newyddion | Proffil | Bywgraffiad | Cronfa | Offerynnau | Oriel | Calendr | Adnoddau | Cysylltu | English